Hygyrchedd Bysiau
Mynediad Llawr isel
Mae gan bob bws Bwcabus lawr isel, mynedfeydd llydan di-ris y gellir cael mynediad hwylus iddynt, na ddylai achosi unrhyw drafferth i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn, cadeiriau gwthio, troliau siopa, bagiau neu rheiny ag anawsterau i symud.
Mynediad i gadeiriau olwyn
Mae gan ein holl gerbydau fannau priodol ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn. Rhoir blaenoriaeth i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn. Os yw cadeiriau gwthio neu fygis mewn man sydd wedi ei neilltuo i gadeiriau olwyn, bydd y gyrrwr yn gofyn ichi blygu eich bygi. Rhaid cadw’r tramwyfeydd a’r fynedfa yn glir bob amser. Er bod y cerbydau’n cydymffurfio’n llawn รข’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd, mae cyfyngiad ar rai cadeiriau olwyn ac yn ogystal, un gadair olwyn yn unig y gellir ei chludo ar y bws. Er mwyn cael rhagor o wybodaeth cysylltwch รข’r ganolfan alwadau.
Bygis a Chadeiriau gwthio
Mae modd dod รข bygis a chadeiriau gwthio ar y bws. Noder, does dim llawer o le i fygis ar y bws. Os oes cadair olwyn neu fygi mewn man sydd wedi ei neilltuo i gadeiriau olwyn, efallai bydd y gyrrwr yn gofyn ichi ei phlygu. Am resymau diogelwch, a fyddech cystal รข sicrhau nad ydych yn rhwystro’r fynedfa a’r tramwyfeydd.
Cลตn Cymorth ac anifeiliaid anwes
Rydym am ichi deithio mor hwylus รข phosibl, felly rydym yn sicrhau bod yr holl anifeiliaid cymorth yn teithio am ddim ar bob cerbyd. Gan gynnwys:
- Cลตn tywys ar gyfer y deillion
- Cลตn clyw ar gyfer pobl fyddar
- Cลตn cymorth i’r anabl
- Cลตn cymorth i gynnal annibyniaeth
Os ydych chi’n rhannol ddall neu os oes angen cymorth arnoch i nodi’ch cyrchfan, dywedwch wrth y gyrrwr ar bob cyfrif.
Yn ogystal, caniateir cลตn ac anifeiliaid anwes ar y bws ar yr amod eu bod:
- Yn cael eu cadw mewn cawell anifeiliaid bob amser
- O dan reolaeth.
Mae hyn er diogelwch a hylendid teithwyr.
A fyddech cystal รข rhoi gwybod i’r ganolfan alwadau pan fyddwch yn archebu.
Beiciau Plygu
Mae modd dod รข beiciau plygu ar y bws. A fyddech cystal รข sicrhau eu bod wedi eu plygu ac nad ydynt yn amharu ar y tramwyfeydd neu fynediad i unrhyw sedd.
Noder: Y mae’n bosibl na ellir caniatรกu beiciau plygu ar y bws ar adegau:
- Os nad oes digon o le ar y bws
- Os yw eich beic yn achosi llanast o fewn y bws ac ar y seddu, neu’n achosi i deithwyr fod yn anghysurus
Ni ellir dod รข beiciau cyffredin na ellir eu plygu ar y bws oherwydd prinder lle a diogelwch.
English