Beth yw Bwcabus fflecsi?

Mae Bwcabus fflecsi yn wasanaeth bysiau lleol gwbl hygyrch sy’n gweithredu mewn ardal benodol ac yn darparu cyfuniad o wasanaethau llwybrau sefydlog a theithiau wedi’u harchebu ymlaen llaw. Nod Bwcabus fflecsi yw helpu pobl i wneud teithiau lleol a chysylltu â gwasanaethau bws prif linell. Mae bws yn eich casglu ar eich cais, gan newid ei lwybr fel y gall yr holl deithwyr gyrraedd lle mae angen iddynt fynd.
Mae eich diogelwch yn hollbwysig, ac rydym wedi cynllunio Bwcabus fflecsi i gludo teithwyr yn ddiogel. Mae gwybod faint o deithwyr rydyn ni’n eu casglu yn golygu y gallwn warantu sedd i chi a chadw pellter cymdeithasol.
Bwcabus fflecsi – eich gwasanaeth bws hyblyg – yn ymateb i’ch anghenion teithio
English
